Isaac

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Angel yn atal Abraham rhag aberthu ei fab Isaac. Abraham ac Isaac gan Rembrandt.

Cymeriad yn yr Hen Destament a mab i Abraham oedd Isaac (Hebraeg: יִצְחָק, Yitzchak, Arabeg: إسحٰق, ʾIsḥāq). Yn draddodiadol, Isaac yw cyndad yr Iddewon, a'i hanner-brawd Ishmael yw cyndad yr Arabiaid. Ystyrir ef yn broffwyd gan Islam hefyd.

Ganed Isaac i Sarah, gwraig Abraham, pan oedd hi eisoes yn ei henaint ac wedi bod yn ddiblant am flynyddoedd lawer. Rai blynyddoedd wedyn, cafodd Abraham orchymyn gan Dduw i aberthu Isaac iddo. Paratôdd Abraham i wneud hynny, ond pan oedd ar fin aberthu ei fab, ymddangosodd angel i'w atal a rhoi dafad iddo i'w aberthu yn lle Isaac. Mae gŵyl Islamig Eid ul-Adha yn dathlu'r digwyddiad yma.

Wedi i Sarah farw, gyrrodd Abraham ei was Eliezer i Fesopotamia, i chwilio am wraig i Isaac, a dychwelodd gyda Rebecca. Daeth Isaac yn dad i Jacob ac Esau. Dywedir fod Isaac wedi ei gladdu yn Ogof y Patriarchiaid ger Hebron, gyda Rebecca ei wraig a'i rieni, Abraham a Sarah.

Yn Islam mae Isaac (Ishāq) yn cael ei barchu fel un o'r proffwydi. Mae Eid el-Adha ('Gŵyl y Defaid') yn cael ei dathlu mewn cof amdano, gŵyl flynyddol sy'n arbennig o boblogaidd yn y Maghreb.